stori

mike a mel

Dechreuodd taith Mel a Mike fel Gofalwyr Maeth dros 14 mlynedd yn ôl, wedi’u hannog gan eu plant eu hunain a oedd â ffrindiau oedd wedi cael eu maethu, meddai Mike. “Roedden nhw’n meddwl y bydden ni’n wych yn maethu, felly fe wnaethon nhw ein hannog ni i roi cynnig arni. Dyna sut ddechreuodd y cyfan.”

Ar ôl gwneud ymholiadau cychwynnol gyda’r awdurdod lleol, cwblhaodd Mike a Mel y cwrs “Sgiliau i Faethu.” Dros chwe mis, daeth gweithiwr cymdeithasol i’w hadnabod nhw, eu ffrindiau a’u teulu, gan greu darlun cynhwysfawr o’r hyn y gallen nhw ei gynnig i’r gwasanaeth maethu.

rhan o deulu cariadus

Mae Mike a Mel yn credu mai’r rhan orau o faethu yw dangos i bobl ifanc bod ffordd wahanol o fyw.

“Mae bod yn rhan o deulu cynnes, cariadus yn rhywbeth nad yw llawer o blant erioed wedi’i brofi erioed” esbonia Mel. “Maen nhw’n aml yn cael eu synnu gan y pethau syml rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol: ystafell braf, bwyd da, dillad glân, ac amgylchedd gofalgar.”

pobl well

Mae maethu nid yn unig wedi newid bywydau’r plant yn eu gofal ond mae hefyd wedi gwneud Mike a Mel yn bobl well, medden nhw.

“Mae’n eich gwneud chi’n fwy parod i dderbyn ac yn eich gwneud chi’n fwy empathig tuag at sefyllfaoedd a phrofiadau pobl eraill.”

Ychwanegodd Mike, “Dydyn ni ddim yn barnu mor gyflym ag oedden ni’n arfer gwneud. Rydyn ni eisiau gwneud gwahaniaeth. Mae’r plant yma gyda ni am reswm – maen nhw wedi cael dechrau anodd. Os gallwn ni wneud pethau ychydig yn well iddyn nhw, rydyn ni wedi llwyddo.”

Mae stori a chanlyniad pob plentyn yn wahanol, ond mae Mike a Mel yn ymfalchïo mewn darparu cartref teuluol cynnes, cariadus, hyd yn oed os yw hynny am ychydig flynyddoedd yn unig.

eisiau dechrau eich stori faethu eich hun?

Os yw darllen stori Mel a Mike wedi eich ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at faethu, yna gadewch i ni ddechrau arni. Dewch o hyd i’ch Awdurdod Lleol heddiw a chymerwch y cam cyntaf.

eisiau dysgu mwy?

Dysgwch fwy am faethu a beth y gallai ei olygu i chi.

Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

Story Time

Stories From Our Carers

young boy playing cards and smiling

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch