![](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A3612-scaled.jpg)
sut mae'n gweithio
sut mae’n gweithio
Mae maethu ym Mhowys yn llawer mwy cysylltiedig nag y byddech chi’n ei feddwl, gyda rhwydwaith pwrpasol sy’n darparu arbenigedd, cefnogaeth broffesiynol ac arweiniad pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.
Mae gennyn ni ddwy swyddfa, un yn y Drenewydd ac un yn Aberhonddu, felly dydy ein tîm byth yn bell iawn i gynnig cefnogaeth ac mae’r tîm ar gael dros y ffôn, neges destun neu e-bost.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill sy’n ymwneud â bywydau ein plant a’n pobl ifanc ym Mhowys, ac mae llawer o gydweithwyr yn gweithio yn yr un swyddfa felly maen nhw ar gael yn rhwydd.
Mae gennyn ni aelod amser llawn o’r tîm sy’n gallu darparu cyngor a gwybodaeth am faterion ariannol sy’n ymwneud â maethu, a dau aelod o’r tîm sy’n gallu darparu cefnogaeth ymarferol i’ch plant chi a’r bobl ifanc rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.
![](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A4039-scaled.jpg)
gwell gyda’n gilydd
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill sy’n ymwneud â bywydau ein plant a’n pobl ifanc ym Mhowys, ac mae llawer o gydweithwyr yn gweithio yn yr un swyddfa felly maen nhw ar gael yn rhwydd.
Gan ein bod yn rhan o grŵp cydweithredol o ddarparwyr nid-er-elw awdurdodau lleol, mae Maethu Cymru Powys yn rhoi pobl wrth galon popeth. Rydyn ni’n sicrhau bod yr un fframwaith a hyfforddiant yn cael eu cynnig i bawb ledled Cymru.
![](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A4258-scaled.jpg)
beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?
Dydyn ni ddim yn asiantaeth faethu gyffredin. Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu’r Awdurdodau Lleol ar hyd a lled y wlad.
Mae hyn yn rhoi persbectif cenedlaethol i ni, ond rydyn ni’n canolbwyntio ar y lleol. O ran gwneud y gorau dros bob plentyn yn ein gofal, rydyn ni’n edrych ar gynnal cyfeillgarwch, ysgolion, clybiau a chymunedau. Rydyn ni’n ceisio blaenoriaethu cadw plant mewn lleoedd lleol, cyfarwydd, maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru, pan mae hynny’n iawn iddyn nhw.
Mae’n ymwneud â chynnal hunaniaeth ac ymdeimlad o ‘hunan’. Mae’n ymwneud â deall, gofalu a gwneud yr hyn sydd orau i bob plentyn unigol. Ac fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru, chi sy’n gwneud hynny’n bosibl.