pwy all faethu?
Mae unrhyw un sydd ag ystafell wely sbâr yn gymwys i faethu ym Mhowys. Mae ein gofalwyr maeth yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd. Allech chi fod nesaf?
pwy all faethucydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Ni yw Maethu Cymru Powys, rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu nid-er-elw’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Mae Powys yn gwasanaethu ardal wledig fawr yng nghalon Cymru ac mae ein trefi marchnad yn fywiog gyda digon i bobl ifanc eu mwynhau.
Cwrdd â thîm maethu cymru Powys yn ein digwyddiadau maethu sydd i ddod ym Mhowys
Mae cychwyn ar eich taith tuag at ofal maeth yn haws na’r ydych yn ei feddwl. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio ar gael yma.
Mae’n ymwneud â darparu lle diogel a chariadus i’w alw’n gartref. Gwneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl ifanc a’r plant sydd wrth galon ein cymuned.
Mae gennyn ni ddau gynllun mentora sy’n cefnogi gofalwyr maeth; un drwy’r broses
fabwysiadu, a’r llall i gefnogi gofalwyr newydd yn ystod y misoedd cyntaf ar ôl iddyn
nhw gael eu cymeradwyo. Hefyd, mae gennyn ni amrywiaeth o fanteision ariannol
cystadleuol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Ydych chi’n meddwl sut mae dod yn ofalwr maeth ym Mhowys? Mae’n haws na’r ydych chi’n ei feddwl, a gallwch ddechrau arni heddiw, drwy anfon e-bost.
Rydyn ni’n sicrhau bod pob plentyn yn cael ei leoli gyda gofalwyr sy’n gallu cynnig sefydlogrwydd a diogelwch mewn cartref cynnes, diogel a llawn gofal, er mwyn creu dyfodol cadarnhaol i blant Powys.