y broses

y broses

Felly, o’r diwedd, rydych chi’n teimlo’n hyderus y gallwch chi gychwyn ar eich taith faethu ond dydych chi ddim yn siŵr am y cam nesaf. Dyma sut mae’r broses faethu’n gweithio ym Mhowys.

y cam cyntaf

Mae’r cam cyntaf yn un hawdd: mae eich taith yn dechrau drwy godi’r ffôn neu anfon yr e-bost hwnnw at ein tîm. Dydy hyn ddim yn teimlo fel cam mawr efallai, ond dyma’r cam pwysicaf y byddwch chi’n ei gymryd.

yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi gysylltu â ni, byddwn yn dechrau dod i wybod popeth amdanoch chi – eich cartref, eich sefyllfa deuluol a’r hyn sy’n bwysig i chi. Bydd rhywfaint o waith papur i’w wneud hefyd. Yna, os bydd cyfyngiadau COVD-19 yn caniatáu, byddwn yn galw draw i ymweld â chi. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu galwad fideo â chi.

yr hyfforddiant

Yma y byddwch yn dechrau eich cwrs hyfforddi cyntaf un. Teitl y cwrs yw “Sgiliau Maethu” neu weithiau mae’n cael ei alw’n “Paratoi i Faethu”. Mae’r cwrs tri diwrnod hwn wedi’i gynllunio i’ch cyflwyno chi i’ch rôl fel gofalwr maeth.

Yma, byddwch yn dysgu popeth am faethu a beth allai hyn ei olygu i chi. Byddwch hefyd yn cwrdd ag aelodau o dîm Powys, a llawer o ofalwyr maeth eraill. Byddwch yn dechrau creu cysylltiadau pwysig a fydd yn para.

yr asesiad

Y cam nesaf yn eich taith yw’r asesiad lle byddwch yn dysgu mwy am beth fydd maethu yn ei olygu i chi a’ch anwyliaid. Dydy hwn ddim yn brawf o gwbl, rydyn ni’n addo. Rydyn ni eisiau gweld sut rydych chi a’ch teulu’n gweithio, gadael i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi a rhannu unrhyw beth sydd ar eich meddwl.

Pwrpas asesiadau, mewn gwirionedd, yw deall cryfderau a gwendidau eich teulu, a gweithiwr cymdeithasol proffesiynol fydd yn cynnal pob un. Rydyn ni’n dymuno eich paratoi ar gyfer y profiadau llawn boddhad a heriol y gallai maethu eu cynnig i chi.

y panel

Ar ôl i’ch asesiad gael ei gynnal, bydd yn cael ei rannu â’n panel yma ym Maethu Cymru Powys. Mae gan bob un o’n 22 tîm lleol banel sy’n cynnwys aelodau annibynnol, gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth profiadol sy’n ystyried pob darpar ofalwr maeth fel unigolyn.

Dim cymeradwyo na gwrthod eich cais i fod yn ofalwr maeth yw pwrpas y panel. Yn hytrach, mae aelodau’r panel yn gwneud awgrymiadau ac argymhellion ynghylch sut gallai maethu fod yn rhan o’ch bywyd.

family laughing together

y cytundeb gofal maeth

Unwaith y bydd eich asesiad wedi cael ei gymeradwyo gan y panel maethu, byddwn ni’n llofnodi’r cytundeb gofal maeth. Mae’r cytundeb hwn yn nodi beth mae’n ei olygu i chi fod yn ofalwr maeth, o’r cyfrifoldebau bob dydd i’r gefnogaeth a’r arweiniad parhaus y byddwch yn eu darparu. Mae hefyd yn amlinellu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth fydd gennyn ni ar gael i chi hefyd, fel eich rhwydwaith cefnogi.

young boy playing cards and smiling

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch â ni

  • Cyngor Powys yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Powys yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.