fyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu ym mhowys?

Mae pob plentyn sydd mewn gofal maeth yn wahanol, a dylai'r un peth fod yn wir am rieni maeth hefyd. Dyna pam rydyn ni’n mynd ati i chwilio am bobl o bob cefndir i ymuno.

Mae Maethu Cymru Powys yn mynd at i ddathlu amrywiaeth. P’un ai ydych chi’n briod, yn cyd-fyw neu’n sengl, eich profiadau bywyd a’ch sgiliau sy’n bwysig i ni.

Yr hyn sydd bwysicaf i’n plant mewn gofal yw’r sefydlogrwydd, y cariad a’r cysondeb y gallwch eu cynnig fel gofalwr maeth ym Mhowys.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Dim ots pwy ydych chi, mae maethu yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i blant yn eich cymuned leol. Rydyn ni’n cynnig cymysgedd go iawn o gyfnodau gofal maeth hefyd, o ychydig oriau’r wythnos, aros am benwythnos i flwyddyn gyfan. Dyna pam mae arnon ni angen cymysgedd go iawn o ofalwyr yn ein rhwydwaith hefyd. Bydd yna bob amser sefyllfa gofal maeth sy’n addas i chi.

Wrth feddwl am bwy sy’n cael maethu, y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw: ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i blentyn lleol?

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Dydy swydd amser llawn ddim yn eich rhwystro rhag dod yn ofalwr maeth o gwbl. Mae’n golygu efallai y bydd angen i ni drefnu rhagor o gefnogaeth gan eich teulu a’ch ffrindiau.

Rydyn ni’n hyderus y gall maethu gyd-fynd â bywyd unrhyw un, p’un ai ydych chi’n gweithio’n rhan amser, yn llawn amser neu ddim o gwbl.

Mae maethu yn ymrwymiad, felly mae angen mynd ati i weithio fel tîm. Byddwch yn cael cefnogaeth ychwanegol gan yr athrawon, y gweithwyr cymdeithasol a’r therapyddion hefyd, yn ogystal â’ch ffrindiau a’ch teulu eich hun.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Gallwch fod yn ofalwr maeth mewn unrhyw fath o gartref. Cyn belled â bod gennych chi ystafell wely sbâr a’ch bod yn gallu cynnig lle diogel i blentyn, gallwch fod yn ofalwr maeth.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Gallwch fod yn ofalwr maeth os ydych chi’n rhiant hefyd. Bydd maethu plentyn yn golygu ymestyn eich teulu eich hun, gan ychwanegu hyd yn oed mwy o bobl i’w caru ac i ofalu amdanyn nhw.

Does dim rheol bendant ar gyfer y ‘teulu maeth delfrydol’ ac mae cael brodyr a chwiorydd yn gallu rhoi cymaint o foddhad i bobl ifanc sydd mewn gofal maeth. Mae’n dysgu empathi iddyn nhw ac yn eu galluogi i wneud ffrindiau.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Efallai y bydd hyn yn eich synnu, ond does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer bod yn ofalwr maeth. Cyn belled â'ch bod yn teimlo’n ffit ac yn iach, rydych yn gymwys i ofalu am blentyn. Dim ots faint yw eich oed, bydd tîm Maethu Cymru Powys yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael cefnogaeth ar gyfer y daith sydd o’ch blaen.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Os ydych chi’n oedolyn, gallwch faethu – gallwch fod yn eich ugeiniau cynnar a byddwch yn dal i allu cynnig cyfle gwych i blentyn ym Mhowys. Byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n barod i wynebu’r her. Bydd ein tîm profiadol gyda chi bob cam o’r ffordd.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Gall rhieni maeth fod yn sengl, yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Pa bynnag fath o berthynas sydd gennych chi, gallwch fod yn ofalwr maeth.

Mae angen cariad a sefydlogrwydd ar blant a phobl ifanc mewn gofal, er mwyn iddyn nhw deimlo’n ddiogel mewn cartref maeth. Os gallwch chi gynnig hyn, yna chi yw’r union berson sydd ei angen arnyn nhw.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Wrth gwrs, gallwch fod yn rhiant maeth beth bynnag fo’ch rhywedd. Mae ein tîm yn gwybod does gan rywedd ddim i’w wneud â’r gallu i ofalu am blentyn a’i garu. Mae arnon ni angen pobl â phersonoliaeth ofalgar a natur dyner – dyna sydd bwysicaf i’r plant a’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Heb os nac oni bai. Wrth gwrs, gallwch fod yn rhiant maeth beth bynnag fo’ch dewis rhywiol. Unwaith eto, rydyn ni’n chwilio am rywun unigryw, sy’n gallu darparu lle diogel, gwrando ar blentyn pan fydd arno angen hynny a gofalu amdano tra bydd yn aros yn ei gartref.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw anifeiliaid anwes i chi a’ch teulu maeth newydd, a dydy hyn ddim yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth. Byddwn yn eu cynnwys yn eich asesiad ac yn gwneud yn siŵr y bydd unrhyw blant maeth yn y dyfodol yn cyd-dynnu â’ch anifeiliaid anwes hefyd.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Er y bydd gan bob tîm bolisïau gwahanol ar gyfer ysmygu a gofal maeth, mae’n bwysig bod yn onest yn eich cais. Rydyn ni’n fodlon cynnig help i chi roi’r gorau i ysmygu os yw hynny’n rhywbeth y byddai gennych chi ddiddordeb ynddo. Fel gyda phob achos, byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn dod o hyd i’r gyfatebiaeth berffaith i chi, p’un ai ydych chi’n ysmygu ai peidio.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Fydd bod yn ddi-waith ddim yn eich dal yn ôl rhag bod yn rhiant maeth o gwbl. Rydyn ni’n gwybod mai eich cariad a’ch cefnogaeth yw’r pethau pwysicaf. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall y gwerth y gall maethu ei gynnig ac i wneud yn siŵr mai dyma’r penderfyniad iawn i chi.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Mae pob cartref maeth yn unigryw a dyna’n union rydyn ni’n anelu ato. P’un ai ydych chi’n byw mewn fflat neu dŷ, cyn belled â bod gennych chi ystafell wely sbâr, byddwch chi’n rhiant maeth gwych.

rhagor o wybodaeth am faethu

mathau o faethu

Mae llawer o wahanol fathau o faethu – ond mae pob un yn gwneud gwahaniaeth. Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o faethu.

mathau o faethu

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael yma.

dysgwch mwy

manteision a chefnogaeth

Mae maethu’n cynnig cymaint mwy o fanteision na’r budd emosiynol yn unig. Dyma beth rydyn ni’n ei gynnig.

dysgwch mwy
young boy playing cards and smiling

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch â ni

  • Cyngor Powys yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Powys yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.