ffyrdd o faethu
mathau o faethu
mathau o ofal maeth
Does unman yn debyg i gartref, medden nhw, ac rydyn ni’n cytuno’n gryf. Gall cartref fod yn rhywle lle mae plentyn yn teimlo’n ddiogel, yn gallu chwerthin a rhannu ei freuddwydion. Rhywle lle mae’n dysgu ac yn tyfu fel person ifanc.
Mae cartrefi maeth yn cynnig lle i feithrin plentyn fel hyn ac er bod pob math o gartrefi maeth ar gael, mae hyn yn gyffredin i bob un.
Gall maethu olygu noson oddi cartref, seibiant rheolaidd ar benwythnosau neu rywle mwy parhaol. Mae’n ateb hyblyg i ddiwallu anghenion plentyn.
gofal maeth tymor byr
![family sitting around a table playing games](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A4373-1-scaled.jpg)
Gall gofal maeth tymor byr olygu unrhyw beth o ychydig oriau i flwyddyn; mae’n darparu sicrwydd a chariad am gyfnod byrrach.
Mae gofalwyr maeth tymor byr yn darparu lle diogel i bobl ifanc tra byddwn ni’n gweithio i sicrhau eu cynlluniau mwy hirdymor. Mae’n golygu eich bod chi yno i ddarparu cysondeb pan fydd ei angen arnyn nhw ac i’w helpu ar eu taith.
![young boy standing and smiling](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A3617-scaled.jpg)
Efallai eich bod yn meddwl na fydd lleoliad tymor byr yn arwain at newid mawr, ond fe fydd. Mae’n golygu eich bod yn rhan o rywbeth gwych i’r plentyn ac mae hyd yn oed seibiant byr yn gwneud byd o wahaniaeth i blentyn mewn gofal maeth.
gofal maeth tymor hir
![family playing at the park](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A3691-scaled.jpg)
Dydy rhai plant maeth neu bobl ifanc ddim yn gallu byw gartref, felly dyna lle mae cartref maeth tymor hwy yn bwysig. Mae hyn yn golygu teulu newydd; lle newydd i dyfu a datblygu ynddo.
![](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A3885-1-scaled.jpg)
Mae ein tîm yn cymryd amser i baru lleoliadau gofal maeth tymor hir oherwydd mae’n bwysig dod o hyd i’r cyfatebiad cywir, un a fydd yn para cyhyd ag y bydd ei angen. I berson ifanc neu blentyn mewn gofal maeth tymor hir, mae’n golygu dyfodol gwell diolch i deulu maeth sefydlog a chariadus.
mathau arbenigol o ofal maeth
Mae sawl math o ofal maeth tymor byr a thymor hir, gan gynnwys rhai mathau mwy arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion penodol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
![family sitting around a bench smiling](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A3785-scaled.jpg)
seibiant byr
Mae seibiant byr yn wych i ofalwyr a phlant; yn rhoi cyfle i bob un ohonon ni i gael hoe a seibiant. Gallai seibiant byr olygu aros dros nos, mynd am benwythnos neu ddiwrnod allan.
Mae hefyd yn cael ei alw’n ‘ofal cymorth’. Mae’r math hwn o ofal maeth weithiau’n cael ei gynllunio ymlaen llaw a gall fod mor rheolaidd ag sydd ei angen ar y plentyn a’i deulu. Mae gofalwyr maeth tymor byr yn dod aelodau sefydlog o deulu estynedig y plentyn, gan gynnig newid bach iddo, cyfle i gael profiadau newydd a chyfle i ddatblygu fel unigolyn.
![family laughing together](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A4151-scaled.jpg)
rhiant a phlentyn
Mae lleoliadau rhiant a phlentyn yn fath unigryw o leoliad gofal maeth sy’n eich paru chi â rhiant a’i blentyn ifanc. Mae’n gyfle i helpu i feithrin y ddwy genhedlaeth, dangos tosturi a gofalu amdanyn nhw, gan ddysgu sgiliau newydd iddyn nhw ar yr un pryd. Mae’n gyfle i siapio’r genhedlaeth nesaf sy’n byw ym Mhowys hefyd.
![family playing at the park](https://powys.maethucymru.llyw.cymru/wp-content/uploads/2021/11/2M2A3672-scaled.jpg)
gofal therapiwtig
Mae gofal maeth therapiwtig ar gyfer plant sydd ag anghenion mwy cymhleth, ac mae hyn yn darparu gwahanol fath o ofal iddyn nhw. Os ydych chi’n dewis maethu plentyn sydd angen gofal therapiwtig, byddwn bob amser yno i roi cefnogaeth ychwanegol i chi a’ch teulu.