pam maethu gyda ni?

pam ein dewis ni?

pam ein dewis ni?

Dim asiantaeth faethu safonol arall yn unig ydyn ni. Mae Maethu Cymru Powys yn gweithio fel rhan o rwydwaith cysylltiedig ar draws 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol.

Mae hyn yn caniatáu i ni ddewis pwrpas dros elw a sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn ein gofal yn aros yn ein cymuned leol ym Mhowys.

ein cenhadaeth

Rydyn ni’n mynd ati i weithio i helpu plant ledled Cymru sydd ein hangen ni. Felly, mae arnon ni angen eich help chithau hefyd.

Maen nhw’n fabis, yn blant bach, yn bobl ifanc yn eu harddegau, yn frodyr a chwiorydd ac yn rhieni ifanc – i gyd yn chwilio am gartref sefydlog. Mae straeon pob un yn unigryw, ond mae ein cenhadaeth yr un fath: creu dyfodol gwell.

ein cefnogaeth

Rydyn ni’n cynnig rhwydwaith cefnogi lleol parhaus o’ch cwmpas: i chi fel gofalwr maeth yn ogystal ag i’r plant yn eich gofal. Fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun ar eich taith.

Bydd ein tîm ym Maethu Cymru Powys gyda chi bob cam o’r ffordd, wrth law i gynnig cymorth, cyngor a’r holl hyfforddiant y bydd ei angen arnoch i lwyddo.

ein ffyrdd o weithio

Fel rhan weithredol o’r gymuned ym Mhowys, rydyn ni wedi gweithio’n galed i ddod yn rhan o fywyd bob dydd a chael cysylltiadau gydol oes â’r bobl sy’n byw yno. Mae hyn yn golygu ein bod yn cydweithio â chi a phob plentyn, i sicrhau bod dyfodol gwell o’u blaenau.

Rydyn ni’n gwybod bod pob plentyn yn ein gofal yn unigryw, gydag anghenion unigol, fel y mae pob gofalwr maeth hefyd. Felly, ein rôl ni yw eich helpu chi’ch dau i fod y gorau y gallwch chi, gan fanteisio i’r eithaf ar eich cryfderau a hybu twf.

eich dewis

Os ydych chi’n dewis maethu gyda ni ym Maethu Cymru, rydych chi’n dewis gweithio gyda thîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig a gofalgar. Rydyn ni’n bobl go iawn, sy’n byw yn eich cymuned, sy’n wynebu’r un realiti mewn bywyd.

Beth am gymryd eich cam cyntaf heddiw.

young boy playing cards and smiling

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch â ni

  • Cyngor Powys yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Powys yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.