pam maethu gyda ni?
cefnogaeth a manteision
cyllid a lwfansau
Yma ym Maethu Cymru Powys, rydyn ni’n falch o’r gefnogaeth barhaus rydyn ni’n ei chynnig i bob un o’n gofalwyr maeth ac rydyn ni’n teimlo bod ein lwfans maethu yn gystadleuol iawn.
- Yn gofalu am un plentyn, gallech dderbyn rhwng £26,261.40 – £29,477.24 y flwyddyn
- Yn gofalu am blentyn ag anghenion cymhleth, gallech dderbyn rhwng £42,629.08 – £44,554.08 y flwyddyn
- Yn gofalu am blentyn a’i riant, gallech dderbyn hyd at £53,265.16 y flwyddyn neu yn gofalu a chefnogi plentyn i ddychwelyd o leoliad preswyl, gallech dderbyn hyd at £61,416.68 y flwyddyn
- Gwneir taliadau ychwanegol i dalu costau digwyddiadau a gwyliau diwylliannol a chrefyddol.
buddion eraill
Mae mwy o fanteision i fod yn ofalwr maeth nag y byddech chi’n ei feddwl. Yn ogystal â’r gefnogaeth a’r lwfansau y soniwyd amdanyn nhw eisoes, ym Mhowys, byddwch hefyd yn cael y canlynol:
- Aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu.
- Cerdyn llyfrgell i ofalwyr
- Cerdyn Cadw
- 5 diwrnod o wyliau ychwanegol i weithwyr Cyngor Sir Powys
- Mynediad at Gynllun Gostyngiad Golau Glas
- Rhyddhad treth gofalwyr maeth
ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru
Ac mae mwy! Mae Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru yn rhoi pecyn cymorth i bob tîm Maethu Cymru ar gyfer pob un o’n gofalwyr maeth.
Os byddwch yn penderfynu ymuno â theulu Maethu Cymru, gallwch fwynhau’r buddion canlynol;

un tîm
Mae ein tîm Maethu Cymru Powys wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y gymuned, sy’n golygu y byddwn yn cydweithio â chi a’r plant yn eich gofal fel un gwasanaeth cyfun. Fel rhan annatod o’n tîm, byddwch bob amser yn cael eich parchu, eich gwerthfawrogi a’ch cynnwys, ac yn rhydd i rannu eich syniadau.
Mae dod yn rhan o dîm Maethu Cymru Powys yn golygu eich bod yn ymuno â’r tîm sy’n gyfrifol am bob plentyn yn ein cymuned leol sy’n cael gofal maeth. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn aros yn lleol yn eu hardal, sy’n ein gwneud ni’n unigryw fel gwasanaeth gofal maeth.

dysgu a datblygu
Fel rhan o’n haddewid i chi fel gofalwr, byddwn yn eich helpu i dyfu a datblygu yn eich rôl. Rydyn ni wedi creu fframwaith o hyfforddiant, cyrsiau ac addysg bellach yn bwrpasol i sicrhau eich bod chi, a’r rheini sydd yn eich gofal, yn cael y budd mwyaf.
Byddwn yn darparu’r holl adnoddau y bydd eu hangen arnoch i wneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n hyderus ac yn abl wrth ddiwallu anghenion y plant a’r bobl ifanc yn eich gofal. A dydy hyn ddim yn dod i ben ar ôl i chi orffen gofalu am blentyn.
Byddwch yn adeiladu ar sgiliau trosglwyddadwy ac yn cael profiadau gwerthfawr yn eich bywyd, gan helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

cefnogaeth
Ar ôl i chi ymuno â thîm Maethu Cymru Powys, fyddwch chi byth ar eich pen eich hun.
Mae gennyn ni weithwyr cymdeithasol medrus a phrofiadol wrth law i’ch helpu chi a’ch teulu cyfan, pan fydd ei angen arnoch fwyaf. Byddwch hefyd yn cael mynediad at ein grwpiau cefnogi lleol, pob un wedi’i greu i ddiwallu anghenion gwahanol ein gofalwyr maeth. O grwpiau rhieni sengl i rieni maeth arbenigol, byddwch yn ymuno â llu o gymunedau newydd a all helpu i rannu eich profiadau.
Mae Maethu Cymru Powys yn cynnig cefnogaeth broffesiynol a therapi i chi a’ch plentyn, gan eich annog chi i rannu, gwrando a siarad am sut rydych chi’n teimlo. Mae ein tîm wrth law ddydd a nos – pryd bynnag y bydd arnoch chi angen siarad, rydyn ni bob amser yn hapus i wrando.

y gymuned faethu
Mae ein cymuned ym Mhowys wrth galon popeth a phan fyddwch yn ymuno â ni, byddwch yn cael eich gwahodd i lu o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda theuluoedd maeth eraill.
Byddwch yn cael cyfle i greu atgofion newydd, gwneud ffrindiau newydd a phrofi pethau newydd i chi ac i’ch plentyn maeth.
Mae ymuno â Maethu Cymru Powys yn golygu y byddwch chi’n dod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru am ddim Mae’r sefydliadau arbenigol hyn yn cynnig llawer iawn o gyngor a chefnogaeth annibynnol.

llunio’r dyfodol
Mae taith pob plentyn a pherson ifanc mewn gofal maeth hyd yma yn bwysig, ond dim mor bwysig â’r un nesaf. Fel tîm, rydyn ni'n canolbwyntio ar eu potensial nawr ac yn y dyfodol, gan ollwng gafael ar y gorffennol. Fel un o’n gofalwyr maeth, bydd gennych chi ran hollbwysig i’w chwarae yn y gwaith o lunio eu dyfodol hefyd.
Fel gofalwr maeth i Maethu Cymru, byddwch hefyd yn cael cyfle i ddweud eich dweud. Gyda chyfleoedd rheolaidd i gael dylanwad ac ymgynghori â’n timau ehangach ym Maethu Cymru, bydd eich profiadau eich hun yn helpu i lunio’r dyfodol i ni i gyd.