Mae’r gŵr a’r wraig Gary a Rachel wedi bod yn maethu plant gyda’i gilydd o’u cartref ym Mhowys ers dros ddeng mlynedd.
y teulu maeth
Gyda’r ddau wedi gweithio fel nyrsys, teimlai Rachel a Gary y gallen nhw gynnig y cariad, y cymorth a’r amgylchedd gofalgar sydd eu hangen mewn teulu maeth. Roedden nhw’n ei weld fel dilyniant naturiol o’u bywyd gwaith.
“Fe gwrddon ni yn y gwaith flynyddoedd yn ôl yn yr ysbyty roedd y ddau ohonon ni’n gweithio ynddo. “Dan ddylanwad ein gyrfaoedd fel nyrsys, daethon ni’n ofalwyr maeth llawn amser” Roedd yn teimlo fel peth naturiol i’w wneud.”
“Rwy’n credu bod y ddau ohonon ni’n eithaf gofalgar ac mae llawer o sgiliau o’r adeg pan oedden ni’n nyrsys yr ydyn ni wedi’u defnyddio i’n helpu ni i fod y gofalwyr maeth gorau y gallwn ni fod.”
Daeth maethu yn naturiol iawn i’r tîm gŵr a gwraig, sydd wedi croesawu nifer o blant maeth i’w cartref ers iddyn nhw ddechrau ar eu taith. Mae’r plant wedi dod o amrywiaeth o gefndiroedd, ac mae angen pob math o gariad a chefnogaeth arnyn nhw.
“maen nhw’n rhan o’r teulu”
Mae Gary a Rachel wedi profi’r heriau a’r boddhad a ddaw trwy faethu, a hefyd ei effeithiau cadarnhaol.
“Cafodd Ewen a Richard eu paru â ni am y tymor hir 4 blynedd yn ôl. Dim ond tair ac wyth oed oedden nhw ar y pryd. Roedd y ddau wedi bod trwy gryn dipyn o ystyried mai rhai bach oedden nhw, a doedden nhw ddim mewn gwirionedd wedi gallu bod yn blant nes iddyn nhw ddod i fyw gyda ni.”
Mae eu gorffennol ymhell i ffwrdd nawr, ac mae’r ddau fachgen yn edrych ymlaen at ddyfodol gwych diolch i Rachel a Gary.
“Rydyn ni’n eu caru’n fawr, maen nhw’n rhan o’n teulu. Mae Ewen yn 7 oed ac mae Richard yn 13 oed. Maen nhw wedi tyfu’n fechgyn ifanc hyderus gyda dyfodol disglair o’u blaenau.”
Mae’r cwpl yn gwybod y gallant wneud byd o wahaniaeth i fywydau’r bechgyn trwy fod wrth law, dangos gofal a gwrando.
“Roedd y bechgyn wedi byw gyda llawer o wahanol ffrindiau ac aelodau teulu cyn iddyn nhw ddod aton ni. Mae’n fy synnu sut y gall plant mor fach brofi cymaint â hynny ac yna bod yn iawn a’n synnu a magu mwyfwy o hyder bob dydd.
barod i ddechrau eich taith faethu eich hun?
Ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r un natur ofalgar â Rachel a Gary? Os felly, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar heddiw a gallwn eich rhoi ar ben ffordd i fod yn ofalwr maeth.
am ddysgu mwy?
Dysgwch fwy am faethu a beth y gallai ei olygu i chi.
Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddyn nhw, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.