stori

Hannah ac Ed

Gwnaeth Hannah, a’i gŵr, Ed, a’u 5 o blant wneud eu hymholiadau cyntaf am faethu yn union cyn y cyfnod clo cyntaf, gan benderfynu nad oedd yr amser yn iawn iddyn nhw. Roedd eu plentyn ieuengaf ym Mlwyddyn 4 yn yr ysgol gynradd ac roedden nhw am iddo gael y cyfle i ddatblygu ei hyder a’i bersonoliaeth ei hun cyn iddynt ddechrau maethu. Roedden nhw’n glir o’r cychwyn y bydden nhw’n mynd ati i faethu fel teulu, gyda’i gilydd, ac y byddai unrhyw blentyn y byddent yn gofalu amdano yn iau na’u plentyn ieuengaf.

roedden ni am newid pethau o’r tu fewn

Mae Hannah ac Ed ill dau yn gweithio gyda phlant. Mae Hannah yn rhedeg darpariaeth cyn ysgol ac mae Ed yn gweithio mewn ysgol uwchradd, ac yn rhinwedd eu gwaith maen nhw’n dod ar draws llawer o blant yr oedden nhw’n gwybod oedd angen help arnynt, gan wneud iddynt sylweddoli fod y system wedi torri. Yn hytrach na pharhau i gwyno am ba mor wael yw pethau, gwnaethon nhw benderfynu mai’r peth gorau iddyn nhw ei wneud oedd ceisio creu newid o’r tu fewn.

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ac er eu bod ill dau yn parhau i weithio llawn amser yn ogystal â dysgu eu plant eu hunain yn y cartref, a oedd yn gwneud TGAU a Lefel A ar y pryd, gwnaethon nhw benderfynu parhau gyda chyfarfodydd asesu a oedd yn digwydd yn yr awyr agored, pan oedd y tywydd yn ffafriol neu yn yr ysgubor.

Dywedodd Hannah eu bod mewn sefyllfa freintiedig am fod ganddynt y gallu a’r lle i edrych ar ôl plentyn arall. Mae tŷ mawr ar dir amaethyddol ganddyn nhw gyda llawer o le yn yr awyr agored ac mae Ed a Hannau yn y cartref yn ystod gwyliau ysgol. Mae dau o’u plant wedi mynd i’r brifysgol ac mae’r 3 arall yn eu harddegau bellach ac yn hunan gymhellol iawn, ac wedi bod yn rhan o’r broses asesu o’r cychwyn ac yn gynwysedig yng ngofal y plant sy’n dod i aros gyda nhw.

I ddechrau daeth dau fachgen bach i aros am benwythnos ond roedd un yr un oed â’r plentyn ieuengaf a doedd hynny ddim yn gweithio, ac yn cadarnhau eu meddyliau gwreiddiol am ystod oedran y plant y gallant ofalu amdanynt.

rydym am helpu cynifer o blant ag sy’n bosibl

Yna, daeth bachgen bach i aros gyda nhw, ac mae e wedi bod gyda nhw ers dwy flynedd a hanner bellach. Mae yna gyfnodau o hyd pan fydd yn herio’r ffiniau, ond gyda chymorth y teulu mae e’n dysgu sut i ymdopi â sefyllfaoedd newydd ac wedi setlo’n dda i mewn i fywyd teuluol. Mae’r teulu yn eiriolwyr cryf dros yr holl blant maen nhw’n gofalu amdanynt. Y cynllun ar hyn o bryd yw iddo aros gyda nhw am y tymor hir. Fodd bynnag, maen nhw’n parhau i fod eisiau helpu cynifer o blant ag sy’n bosibl.  

Ymunodd plentyn arall â nhw yn ddiweddar. Mae’r bachgen bach yn wirioneddol hoffi plant iau ac roedden nhw’n cyd-dynnu’n dda ar unwaith. Mae e’n mwynhau chwarae gyda hi gan ymdopi’n dda iawn pan fydd hi’n dwyn ei deganau a rhedeg i ffwrdd! Yn ddiweddar, aethon nhw am drip i gae pwmpenni, profiad oedd yn heriol iddo llynedd, pan aeth yno am y tro cyntaf. Roedd hi’n stori wahanol eleni a gwnaeth ymdopi’n dda iawn gan ddweud wrth y ferch fach ei fod wedi bod o’r blaen a dangos iddi hi beth i’w wneud.

rydyn ni’n cael cefnogaeth wirioneddol dda oddi wrth ffrindiau a’r teulu

Dywedodd Hannah eu bod nhw’n cael cefnogaeth wirioneddol dda oddi wrth eu teulu a ffrindiau, sy’n hanfodol.

Photo of the Davies family

rydyn ni’n maethu fel teulu

Cyngor Hannah i unrhyw un sy’n ystyried maethu yw i fod yn realistig a gwybod beth yw eich sgiliau. Hwn fydd un o’r pethau mwyaf anodd y byddwch yn ei wneud erioed, ond fe fydd yn rhoi llawer iawn o foddhad hefyd. Rydych chi’n maethu fel teulu, gyda’ch gilydd, ac mae angen i’ch plant eich hun fod yn gynwysedig bob cam o’r ffordd. Gwrandewch arnynt achos mae angen iddyn nhw fod ar y daith gyda chi.

Story Time

Stories From Our Carers

young boy playing cards and smiling

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Powys yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Powys yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.