mathau o faethu
gofalwyr myfyriol
Mae Maethu Cymru Powys yn chwilio am ofalwyr gweithgar, deinamig sy’n barod i weithio gyda’r gwasanaeth i ddarparu amgylchedd cartref diogel i berson ifanc sydd angen gofal maeth brys neu seibiant tymor byr. Mae’r math hwn o leoliad yn darparu gofal ar gyfer pobl ifanc sydd angen lleoliad ar unwaith wrth ddechrau gofal maeth neu ar ôl i drefniant blaenorol chwalu.
bydd angen:
- profiad sylweddol o weithio’n uniongyrchol gyda neu ofalu am bobl ifanc sy’n dangos amrywiaeth o ymddygiadau
- bod â meddwl agored a bod â’r ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i fywyd person ifanc
- amynedd, amser ac ymrwymiad i ddiwallu anghenion unigol y plentyn, person ifanc
- y gallu i gefnogi pobl ifanc trwy gyfnodau o drawsnewid a newid
beth fyddwch chi’n ei dderbyn yn gyfnewid?
- Byddwch yn cael ffi wythnosol o £380 ynghyd â lwfansau maethu pan fydd gennych blentyn mewn lleoliad
- Bydd gennych gefnogaeth gweithiwr cymdeithasol maethu penodedig a gweithiwr cymorth i deuluoedd.
- Bydd gennych gefnogaeth tîm o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r person ifanc yn eich gofal ac a all gynnig cyngor a chymorth un i un i chi.
- Byddwch yn cael mynediad i raglen hyfforddi arbenigol, a bydd rhai ohonynt yn dechrau yn ystod eich cyfnod asesu.
- Pan fydd y swyddfa ar gau, bydd gennych fynediad at gymorth 24 awr drwy’r llinell gymorth gofal maeth a’r tîm dyletswydd brys.