eisoes yn maethu?

ydych chi’n maethu’n barod gydag awdurdod lleol neu asiantaeth arall?

Ein nod yw cefnogi a grymuso ein holl ofalwyr maeth, oherwydd mae hynny’n golygu y gallwn greu dyfodol gwell ar gyfer plant sy’n byw ym Mhowys.  Byddwn yn gweithio gyda’n gofalwyr i baru plant gyda’r cartrefi cywir. Trwy wrando arnoch, dod i’ch adnabod chi a’ch teulu, eich bywyd a’ch cartref gallwn eich paru gyda’r plentyn maeth mwyaf addas ichi oherwydd eich sgiliau a’ch amgylchiadau. Mae gwneud y trefniadau paru gorau’n bwysig inni. Ac mae hynny oherwydd ei fod yn syml: mae trefniadau paru gwell yn golygu canlyniadau gwell.

pam ddylech chi faethu gyda ni?

Ein nod yw cefnogi a grymuso ein holl ofalwyr maeth, oherwydd mae hynny’n golygu y gallwn greu dyfodol gwell ar gyfer plant sy’n byw ym Mhowys.  Byddwn yn gweithio gyda’n gofalwyr i baru plant gyda’r cartrefi cywir.

Trwy wrando arnoch, dod i’ch adnabod chi a’ch teulu, eich bywyd a’ch cartref gallwn eich paru gyda’r plentyn maeth mwyaf addas ichi oherwydd eich sgiliau a’ch amgylchiadau. Mae gwneud y trefniadau paru gorau’n bwysig inni. Ac mae hynny oherwydd ei fod yn syml: mae trefniadau paru gwell yn golygu canlyniadau gwell.

byddwn yn darparu

 

  • Tîm ymroddedig o staff maethu profiadol
  • Rhwydwaith gofalwyr maeth a chymorth cymheiriaid a leolir ym Mhowys
  • Dull o weithio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran eich dysgu a datblygiad, gan gynnwys hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb gydag adnoddau digidol hygyrch.
  • Grwpiau cymorth lleol ar gyfer gofalwyr
  • Digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer teuluoedd maethu
  • Gwasanaeth tu allan i oriau
  • Lwfansau plant a gofalwyr cynhwysfawr
  • Aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu
  • Cerdyn Llyfrgell Gofalwr Maeth
  • Pecyn cymorth therapiwtig sy’n cynnwys cyngor arbenigol ac ymgynghori gyda gwasanaeth seicoleg pwrpasol.

 

young boy playing cards and smiling

trosglwyddo heddiw

cysylltwch â ni

  • Cyngor Powys yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Powys yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.